— Cartref
Ein cartref yw Cymru. Felly y mae wedi bod i mi erioed ac i Chris ers amser maith. Siaradwyr Saesneg iaith gynta ydyn ni. Dw i wedi dysgu Cymraeg. Rydyn ni’n dau wedi gweithio mewn amgylchedd naturiol ddwyieithog erioed. Er nad ydyn ni’n ddigon rhugl i reoli prosiectau drwy gyfrwng y Gymraeg, rydyn ni’n datblygu ac yn rhedeg mentrau sy’n gweithredu’n ddwyieithog neu’n amlieithog fel bo’n briodol.
Mae’r Gymraeg yn rhan annatod o’n diwylliant personol a phroffesiynol. Rydyn ni’n cydnabod nad ein hiaith gyntaf yw’r Gymraeg ond mae dylanwad y Gymraeg a bod yn gynefin yn y Gymru ddwyieithog yn sylfaenol i’n hunaniaeth a’n gwaith.
Ceri